| Hel Achau - taith i'ch gorffennol
Mae hanes teulu fel taith i ddarganfod eich gwreiddiau eich hun yn y gorffennol yr oedd eich hynafiaid yn ei adnabod. Gall y daith hon, fel unrhyw daith arall, fod yn hwyl ac yn ddifyr, ond gall beri rhwystredigaeth hefyd. Yn union yr un fath ag unrhyw daith i le anghyfarwydd, gall ychydig o gynllunio ymlaen llaw wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu.
Disgrifir y gorffennol yn aml iawn fel gwlad estron a diarth. Bwriad y llyfryn hwn yw cyflwyno gwybodaeth berthnasol a chywir am achyddiaeth yng Ngwynedd er mwyn hwyluso eich taith.
Cychwyn ar Hanes eich Teulu yng Ngwynedd
Gadwch i ni feddwl beth fydd raid i chi ei wneud i ymchwilio i’ch gwreiddiau yng Ngwynedd. Bydd y safle hwn yn ymdrin â
- Y broses o ymchwilio i hanes teulu
- Awgrymiadau a chyngor ar hanes teulu
- Gwybodaeth am ffynonellau sy’n ymdrin ag achau Cymreig
- Cyngor ar deithio yng Ngwynedd
- Sut i wneud y defnydd gorau o’ch amser yng Ngwynedd

|